Guidance for Contributors

Cartref > Cyhoeddiadau > Guidance for Contributors

Mae’r Gymdeithas yn croesawu cyfraniadau i’r Carmarthenshire Antiquary gan haneswyr amatur a phroffesiynol ar ystod eang o bynciau sy’n berthnasol i archaeoleg, hanes, treftadaeth adeiledig, hynafiaethau, archifau a hanes cymdeithasol Sir Gâr. Dylai’r cyfraniadau fod yn waith gwreiddiol o eiddo’r awdur, sy’n manylu ar waith ymchwil newydd neu’n ailasesu dehongliadau cynharach neu’n cyhoeddi deunydd archifol gyda sylwadau a dadansoddiad. Er nad ydym yn gymdeithas sy’n ymwneud â hanes teulu yn bennaf, croesewir cyfraniadau personol sy’n cyfrannu at fywyd cymdeithasol neu ddeallusol y sir neu’n darparu cofnod o ddigwyddiadau neu brofiadau na fyddent fel arall yn para i’r oesoedd i ddod. Dylai cyfranwyr edrych ar y rhestrau cynnwys byr mewn copïau blaenorol o’r Antiquary. Cyfyngir nifer y cyfraniadau mewn unrhyw flwyddyn er mwyn creu cyfrol sydd, o ran ei maint, yn perthyn i’r categori postio ‘llythyr mawr sy’n pwyso llai na 50g’.

Mae croeso i gyfranwyr drafod cyfraniadau posibl â’r golygydd a’r aelodau o’r bwrdd golygyddol cyn eu cyflwyno. O ran eu hyd, dylai’r prif erthyglau gynnwys hyd at 10,000 o eiriau ond croesewir nodiadau ac erthyglau byrrach hefyd. Nid oes system ffurfiol ar gyfer adolygu gan gymheiriaid ar waith gennym ond bydd y Golygydd yn aml yn ceisio barn a sylwadau’r Bwrdd Golygyddol ac arbenigwyr allanol os bydd angen. Mae penderfyniad y Golygydd yn derfynol fodd bynnag.

Dylid cyflwyno’r cyfraniadau i’r golygydd ar ffurf electronig, mewn ffeil Word os yn bosibl, heb unrhyw ymgais i ail-greu ffurf gyhoeddedig y cyfnodolyn. Dylai’r darluniau eglurhaol fod yn eglur iawn a dylid eu cyflwyno ar wahân i’r testun ynghyd â rhestr o gapsiynau, ar ffurf ffeiliau jpg neu tiff os yn bosibl.  Anaml iawn y bydd ansawdd delweddau a lwythir i lawr o wefannau yn ddigon da. Cyfrifoldeb yr awdur neu’r awduron yw gofyn caniatâd y cyrff perthnasol i atgynhyrchu’r deunydd a gyflwynwyd. Caiff awduron farcio’r testun i ddangos ymhle y dylai’r darlun gael ei osod.

Mae’r Carmarthenshire Antiquary yn defnyddio is-benawdau mewn priflythrennau bach ac is-is-benawdau, os bydd angen, mewn print italig. Mewn rhai achosion, yn ôl disgresiwn y Golygydd ac mewn trafodaeth â’r awdur, bydd modd gosod adran ragarweiniol dros ddwy golofn. Rydym hefyd yn parhau i ddefnyddio ôl-nodiadau, yn hytrach na system gyfeirnodi Harvard neu droednodiadau ar waelod y dudalen. Mae’r drefn hon yn caniatáu cyfeiriadau llawn at y ffynonellau a ddefnyddiwyd neu a ddyfynnwyd ynghyd â gwybodaeth ychwanegol, pan fo angen, a allai beri i’r prif destun edrych yn flêr fel arall. Cynghorir awduron sy’n ystyried cyfrannu erthygl i gael golwg ar y rhifyn diweddaraf o’r Carmarthenshire Antiquary, cyfrol 57, 2021 isod i gael syniad o’r arddulliau mewnol, a mathau a maint y darluniau eglurhaol a ganiateir gan y ffurf ddwy golofn.

Gellir gweld canllaw defnyddiol i’r arddulliau cyfeirnodi a ffefrir trwy fynd i https://ecu.au.libguides.com/referencing/reference-examples.