Cyfarfodydd

Cartref > Digwyddiadau > Cyfarfodydd

Rhaglen 2024

Edrychwch ar y wefan hon neu’r cyfryngau cymdeithasol am newidiadau posibl i’r rhaglen a drefnwyd.

Y rhaglen lawn o gyfarfodydd ar gyfer 2024

Dydd Sadwrn 20 Ionawr, 2.00PM[CD1] 

Darlith Gymraeg: Gwylltir a gwyrthiau: teithwyr a hynafiaethwyr yn Sir Gâr (1700-1820)
Siaradwr: Yr Athro Mary-Ann Constantine, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Gwybodaeth am y lleoliad: Capel y Tabernacl, Teras Waterloo, Caerfyrddin, SA31 1DQ. Lleoedd parcio ym Maes Parcio Heol Ioan
Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
Arweinydd: Mary Thorley 07980372483 carmantiquarians@gmail.com

DYDD MAWRTH 6 CHWEFROR, 7.30PM

Sgwrs ddarluniadol: Arglwyddiaethau’r Mers yn Ne-orllewin Cymru, gan gynnwys astudiaeth achos o Dalacharn
Siaradwr: John Fleming
Neuadd Goffa Talacharn SA33 4QG SN301113
Cyfarfod ar y cyd â Hanes Cymunedol Talacharn. Bydd y sgwrs hefyd ar gael i’r aelodau trwy Zoom: cysylltwch â carmantiquarians@gmail.com erbyn 30ain Ionawr i fanteisio ar y dewis hwn.
Arweinydd: Peter Stopp 01994427310 aandpstopp@gmail.com

DYDD MERCHER 13 MAWRTH, 7.00PM

Sgwrs: Eliza Caerfyrddin a Latimer Maurice Jones: Radicaliaid Caerfyrddin o’r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg
Siaradwr: Mary Thorley
Gwybodaeth am y lleoliad: Capel y Tabernacl, Teras Waterloo, Caerfyrddin, SA31 1DQ. Lleoedd parcio ym Maes Parcio Heol Ioan
Arweinydd: Mary Thorley 07980372483 carmantiquarians@gmail.com

DYDD SADWRN 13 EBRILL, 1.00-4PM (CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL AM 3PM)

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Diwrnod Maes: Llanboidy: pentref cymwynaswr cymdeithasol
Siaradwyr: Peter Stopp a Dylan Rees
Gwybodaeth am y lleoliad: Neuadd y Pentref, Llanboidy, SA34 0EJ, SN217233. Lleoedd parcio gerllaw.
Arweinydd: Peter Stopp 01994 427310 aandpstopp@gmail.com

DYDD IAU 16 MAI, 6.00PM

Tro: Noson y Cadeirydd: Llwybr Treftadaeth Pen-bre a Phorth Tywyn
Siaradwyr: Graham ac Ellen Davies
Gwybodaeth am y lleoliad: Cyfarfod yng Ngorsaf Reilffordd Porth Tywyn, ar yr ochr ddeheuol (ger Gwesty’r Neptune). Tro a fydd yn para tua 90 munud ar lwybr hawdd, milltir o hyd, ar dir gwastad.
Arweinydd: Mary Thorley 07980372483 carmantiquarians@gmail.com

DYDD SADWRN 15 MEHEFIN, 2PM

Prynhawn maes: Cynhanes ar Fynydd Llangyndeyrn
Siaradwr: Heather James
Gwybodaeth am y lleoliad: Parcio ar ochr y ffordd (B4306) ar dir comin uwchben Crwbin, cyfeirnod grid SN470128. Tro byr a rhywfaint o dir anwastad ar y comin.
Arweinydd: Heather James 01267 231793 h.james443@gmail.com

DYDD SADWRN 13 GORFFENNAF, 1.00PM

Tro a Sgwrs: Pentref Llansteffan
Siaradwr: Rhys Schelewa-Davies
Gwybodaeth am y lleoliad: Cyfarfod ar sgwâr y pentref ger eglwys San Steffan, cyfeirnod grid SN350107. Lleoedd parcio ar gael ar lan y môr.
Arweinydd: Mary Thorley 07980372483 carmantiquarians@gmail.com

DYDD SADWRN 10 AWST, 2-4PM

Tro a sgwrs: Hanes Bancyfelin
Siaradwr: Bruce Wallace
Gwybodaeth am y lleoliad: Y ffordd sy’n gwasanaethu ystâd Maes y Llewod (ger tafarn y Fox & Hounds), SA33 5EQ, SN323180. Tro hawdd, tua milltir o hyd ar dir gwastad
(Cyfarfod ar y cyd â Hanes Cymunedol Talacharn).
Arweinydd: Peter Stopp 01994 427310 aandpstopp@gmail.com

Dydd Sadwrn 14 Medi 1.30

Ymweliadau safle a sgyrsiau: Eglwys y Drindod Sanctaidd, Pontargothi, a Chaer Bentir a Mwnt Allt-y-ferin.
Siaradwyr: Tom Lloyd, Heather James a Penny David
Gwybodaeth am y lleoliad: Cyfarfod ger yr eglwys, SA32 7PA, SN510226 (lleoedd parcio cyfyngedig: mae rhannu ceir yn hanfodol). Tro byr/ lifftiau i Allt-y-ferin. £2 o gyfraniad ar y diwrnod.
Arweinydd: Heather James 01267 231793 h.james443@gmail.com

DYDD MAWRTH 15 HYDREF, 2.00PM

Taith dywys: Craig-y-nos: ‘Does Unman yn Debyg i Gartref’ Madam Patti
Siaradwr: Staff Craig-y-nos
Gwybodaeth am y lleoliad: Castell Craig-y-nos, Heol Aberhonddu, Glyn Tawe, Abertawe SA9 1GL, SN 840153. Gadewch yr M4 yng nghyffordd 45 (Treforys) a dilyn yr A4067 tua’r gogledd am oddeutu 15 milltir.
Taith dywys o gwmpas Castell Craig-y-nos (y theatr, yr ystafelloedd a wardiau’r ysbyty).
Pris: £10 y pen. Rhaid archebu ymlaen llaw*.
Arweinydd: Eurig Davies 01792 863239 e.davies11@btinternet.com

DYDD SADWRN 9 TACHWEDD, 10 AM- 4 PM

Cynhadledd: Sir Gâr mewn Can Gwrthrych.
Siaradwyr: Tom Lloyd, Mary Thorley, Heather James, Dylan Rees, a chyfraniadau gan yr aelodau.
Ystafell Cothi, Theatr yr Halliwell, Coleg y Drindod, Caerfyrddin (PCYDDS) –
Ffurflenni archebu* a rhaglen fanwl i’w dosbarthu; y costau a ragwelir: ffi o £10 i’r aelodau, £15 i eraill, tua £15 am y cinio
Arweinydd: Heather James 01267 231793 h.james443@gmail.com

DYDD SADWRN 7 RHAGFYR, 12.30 I DDECHRAU AM 1.00PM

Cinio Nadolig ac Anerchiad y Llywydd
Siaradwr: Y Llywydd Thomas Lloyd, OBE, DL, FSA, Herodr Arbenigol Cymru
Lleoliad: i'w gadarnhau*
Manylion cyswllt: Mary Thorley 07980 372483 carmantiquarians@gmail.com