Nodau
Cartref > Amdanom ni > Nodau
Mae cyfansoddiad y Gymdeithas yn pennu ein nodau a’n hamcanion fel a ganlyn:
- Astudio hanes, archaeoleg, hynafiaethau a llên gwerin Sir Gaerfyrddin yn benodol a Gorllewin Cymru yn gyffredinol.
- Annog diddordeb y cyhoedd mewn hanes lleol.
- Annog diogelu cofnodion lleol, hynafiaethau ac eitemau o ddiddordeb hanesyddol ac archaeolegol.
- Cydweithredu â chyrff eraill sydd â diddordebau tebyg.
- Trefnu darlithiau ac alldeithiau i fannau o ddiddordeb hanesyddol.
- Cyhoeddi canlyniadau ymchwil i hanes lleol yng nghylchgrawn hanesyddol y Gymdeithas, y Carmarthenshire Antiquary.
- Cymryd unrhyw gamau eraill a allai fod yn ddymunol er mwyn cyflawni’r amcanion a ddisgrifir uchod.