Hanes
Cartref > Amdanom ni > Hanes
Cyfieithiad i ddilyn yn fuan...
Sefydlwyd Cymdeithas Hynafiaethau Sir Gaerfyrddin yn 1905 ar adeg pan nad oedd fawr ddim hanes awdurdodol o Sir Gaerfyrddin wedi’i gyhoeddi. Bu’r Gymdeithas yn ganolog yn y gwaith o gydlynu, casglu a lledaenu pob math o ddeunyddiau hanesyddol ac archaeolegol. Bu diwrnodau maes y Gymdeithas, a ddenai gynulleidfa dda, yn fodd i’r aelodau weld cofebau maes a chlywed amdanynt, a chyhoeddwyd adroddiadau amdanynt ym mhapur newydd The Welshman. Gan fod y rhain mor boblogaidd – sefydlwyd ein cyfnodolyn, o’r enw Transactions. Casglwyd arteffactau yn ogystal, a buan y penderfynwyd y dylai’r Gymdeithas gael ei hamgueddfa ei hun i’w dal nhw a’r llif o lyfrau a llawysgrifau a gyrhaeddai o bob cwr o’r sir.
Rhwng 1905 a dechrau’r 1920au, casglodd y Gymdeithas gymaint o ddeunyddiau nes i’w hamgueddfa ddod yn ail yn unig o ran maint i Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Erbyn canol y 1920au, roedd hi’n glir bod y casgliad hwn a oedd bellach yn amhrisiadwy yn cael ei gadw mewn amodau gwael yn ‘Ystafelloedd’ y Gymdeithas yn Heol y Cei. Yn 1920, rhoddodd yr Arglwydd Kilsant eiddo yn Heol y Bont (a oedd yn cynnwys rhan o’r Castell) i’r Gymdeithas. Fodd bynnag, erbyn 1929 roedd hi’n argyfwng oherwydd diffyg lle, amodau storio gwael ac yna achos o bydredd sych. Ym mis Rhagfyr 1929 roedd Syr Cyril Fox yn hallt iawn ei feirniadaeth o’r Gymdeithas am barhau i gasglu deunyddiau pan oedd adnoddau annigonol ganddi. Gobeithiai Fox y byddai’r Cyngor Sir yn cyfrannu. Bu E. V. Collier, aelod hir ei wasanaeth, hefyd yn ‘Gyfarwyddwr’ ar hyd y cyfnod hwn a bu yntau a George Eyre Evans yn gweithio’n frwd i chwyddo’r casgliadau. Defnyddid Rhif 5 Heol y Cei heb dalu rhent oddi ar 1920 cyn i’r Gymdeithas brynu’r eiddo am £400.
Bedair blynedd yn ddiweddarach, prynwyd Rhif 4 gan ddyblu maint lleoedd storio ac arddangos yr Amgueddfa. Yn ystod y 1930au, roedd y casgliadau o lyfrau, llawysgrifau ac arteffactau yn dal i dyfu gan roi’r mannau storio ac arddangos o dan fwy o straen. Ym mis Tachwedd 1939, bu farw George Eyre Evans, un o’r aelodau sylfaenol, Ysgrifennydd hir ei wasanaeth, casglwr o fri a Churadur yr Amgueddfa. Ond cyn ei farwolaeth, roedd y Gymdeithas eisoes wedi cynnal trafodaethau gyda Chyngor Sir Caerfyrddin gyda golwg ar drosglwyddo’r Amgueddfa i berchnogaeth gyhoeddus.
Gan hynny, ym mis Tachwedd 1940, trosglwyddwyd Rhif 4 a Rhif 5 Heol y Cei, 9 Heol y Bont a’r holl wrthrychau, llyfrau a llawysgrifau i Gyngor Sir Caerfyrddin am swm o £800. Mae’r catalog byr (a chwbl annigonol) a oedd yn rhan o’r trosglwyddiad yn rhoi syniad o gwmpas ac ehangder y casgliadau – cerrig coffa Cristnogol cynnar, eitemau Llên Gwerin, gwydr a chrochenwaith Tsieina yr oedd llawer ohonynt yn dod o Lanelli, nifer o lwyau caru, sampleri, paentiadau, darluniau a 60 casyn o anifeiliaid wedi’u stwffio. Roedd casgliad y Gymdeithas o Feiblau cynnar yn anferthol, ac yn cynnwys argraffiadau o 1611 a’r Beibl Cysegr Lân, 1620.
Darparodd y Gymdeithas lawer o’r deunyddiau crai ac, i ryw raddau, y synthesis ar gyfer sbarduno gwell dealltwriaeth o ddatblygiad yr ardal o’r cyfnod cynnar hyd yr oes fodern. Cyhoeddwyd y Transactions yn ddi-dor ac mae’n siŵr eu bod yn werthfawr dros ben i awduron Rhestr Eiddo y Comisiwn Brenhinol (1917); a chyhoeddwyd cyfrol Hanes y Sir a gynhyrchwyd o dan arweiniad golygyddol medrus Syr John Lloyd yn y 1930au. Roedd y diwrnodau maes yn parhau i fod yn boblogaidd ac yn gyfrwng pwysig wrth roi gwybod i’r aelodau am hynafiaethau’r Sir a rhoi gwybodaeth i dirfeddianwyr am bwysigrwydd y safleoedd ar eu tiroedd.
O dan reolaeth y Cyngor Sir, gellid dweud, ar y gorau, fod yr Amgueddfa wedi aros yn sefydlog. Roedd y Gymdeithas yn dal yn bresennol yn ei phwyllgor rheoli (yn unol ag un o amodau’r cytundeb trosglwyddo). Roedd blynyddoedd y rhyfel yn gyfnod anodd i’r Gymdeithas fodd bynnag: mae’n glir bod bwlch mawr ar ôl V. E. Collier a George Eyre Evans, ac er gwaethaf ymdrechion diflino swyddogion fel E. G. Bowen a Syr Grismond Philipps, nid oedd modd tyfu’r aelodaeth o’i sylfaen fach iawn ar y pryd. Nid oedd y cyfnod yn syth ar ôl y rhyfel yn amser ffafriol i ailgodi’r Gymdeithas Hynafiaethau yn null enwog y dyddiau a fu. Roedd ‘Cymdeithas’ y sir wedi newid ac roedd nifer o’r hen do wedi’u claddu ers tro.
Yn ystod y rhyfel, daeth y nifer llai a llai o aelodau i golli eu cysylltiad â’r wybodaeth am y casgliad rhyfeddol a grynhowyd rhwng 1905 ac 1939. Pa syndod felly i’r Gymdeithas golli diddordeb yn yr hyn a greodd? Daeth aelod o’r cyngor, J. F. (Fred) Jones, yn Guradur yn yr 1950au a bu wrth y llyw yn yr amgueddfa a’r Gymdeithas am ddau ddegawd bron pan arhosodd nifer yr aelodau yn ei unfan. Roedd J. F. Jones yn gryn hynafiaethwr ac ysgolhaig ond roedd yn ŵr hynod a wnâi elynion yn ogystal â ffrindiau. Rhaid cydnabod ei fod yn gweithio ar ei ben ei hun i Gyngor Sir na chyfrannai fawr ddim at y gwaith o gynnal yr amgueddfa, heb sôn am ei datblygu. Yn ogystal, nid y Gymdeithas bellach oedd perchennog yr Amgueddfa. Golygai rheolaeth wael a chyfleusterau storio annigonol fod llawer o lawysgrifau a llyfrau wedi mynd ar chwâl a heb gael gofal digonol. Dinistriwyd gwrthrychau bregus, megis yr anifeiliaid wedi’u stwffio, gan y pydredd sych a oedd yn rhemp. Yn ystod ei gyfnod fel Curadur, ni chadwodd J. F. Jones yr un cofnod o dderbyniadau (na benthyciadau a ddychwelwyd), na chofnod ychwaith o’r eitemau a ddifethwyd oherwydd amodau storio gwael. Hyd yn oed o ystyried y ffaith ei fod yn gweithio ar ei ben ei hun, mae’n bur debygol y bydd yr oesoedd i ddod yn barnu bod y methiant hwn yn anesgusodol. Canlyniad hynny heddiw yw bod olrhain y nifer mawr o eitemau a llyfrau tra gwerthfawr sydd bellach ar goll yn dasg amhosibl.
Datblygodd dadeni’r Gymdeithas o ganlyniad i gyfuniad o ffactorau yn yr 1960au. Dechreuodd pobl ymddiddori yn y gorffennol, yn enwedig ym maes archaeoleg, ar adeg pan oedd Dr Barri Jones, ysgolhaig ifanc a brwd o Brifysgol Manceinion yn arwain cloddiadau lleol. Darparodd ei waith cloddio yng Nghaerfyrddin dystiolaeth i gefnogi’i haeriad fod Caerfyrddin yn fwy na Chaer Rufeinig, a’i bod yn brifddinas lwythol â’i muriau ei hun ar wahân i’r gaer. Dechreuodd aelodaeth y Gymdeithas gynyddu’n sylweddol yn dilyn newid swyddogion ac ethol Cyngor newydd. Roedd dimensiwn ffres i’r diwrnodau maes, gyda llawer o ddiddordeb mewn safleoedd Rhufeinig. Roedd J. F. Jones eisoes wedi darganfod y gwersyll dros dro pwysig yn Arosfa Garreg (ger y gwersylloedd hysbys gorymylol yn y Pigwn). Ar ben hynny, roedd cadarnhau’r ffaith bod amffitheatr Caerfyrddin wedi’i phrofi yn dilyn arolwg, yn ganolbwynt pellach i’r elfen archaeolegol o ddiddordeb y Gymdeithas. Ildiodd cyfnodolyn Transactions ei le i’r Carmarthenshire Antiquary yn 1940 ac erbyn 1969, roedd Barri Jones wedi gallu cyhoeddi canlyniadau interim ei waith cloddio yn 1968. Erbyn 1970, ymddangosodd ragor o adroddiadau a chanlyniadau’r gwaith yn y mwyngloddiau Rhufeinig yn Nolau Cothi.
I gofnodi’r mileniwm newydd, penderfynodd y Gymdeithas ymgymryd â phrosiect uchelgeisiol i greu archif o atgofion pobl Sir Gâr o’r ugeinfed ganrif. Cydlynwyd y prosiect gan Eiluned Rees a aeth ymlaen i olygu’r cyhoeddiad o’r enw Carmarthenshire Memories of the Twentieth Century. Mae’n cynnwys bron 130 o gyfraniadau gan bobl gyffredin yn cofnodi amrywiaeth eang iawn o weithgareddau, digwyddiadau, galwedigaethau a chrefftau rhyfeddol gan rychwantu’r rhan fwyaf o’r ugeinfed ganrif. Math arall o gyhoeddiad a oedd yn ateb galwadau’r oes ddigidol oedd cronfa ddata Glenys Bridges o Fapiau Llyfrau mapiau ystadau Sir Gaerfyrddin a lansiwyd ar CD yn 2005. Yr Antiquary yw’r prif gyfwng o hyd ar gyfer cyhoeddi diddordebau ymchwil yr aelodau, gyda’r newidiadau yn y pynciau a drafodir yn adlewyrchu agweddau a diddordebau newidiol yr aelodau yn yr unfed ganrif ar hugain.
GEORGE EYRE EVANS 1857-1939
UN O AELODAU SYLFAENOL Y GYMDEITHAS
Adargraffiad (cyfieithiad) o’r Carmarthen Antiquary, Cyfrol. 1 Rhan 1 (1941), tt.5-10.
Ysgrifennwyd y traethawd canlynol (a olygwyd) ar adeg ei farwolaeth yn 1940.
Mae’i farwolaeth yn cau pennod yn hanes y Gymdeithas ac mae pennod newydd ar gychwyn. Pan fu farw ar 9fed Tachwedd, 1939, ychydig iawn o aelodau sylfaenol y Gymdeithas a oedd yn dal yn fyw, ond cyhyd ag yr oedd Mr Evans yn parhau gyda ni, roedd Cymdeithas Hynafiaethau Sir Gaerfyrddin i raddau helaeth yr un fath ag y bu yn ystod y deng mlynedd ar hugain a rhagor ers ei sefydlu. Mewn cynifer o ffyrdd, Mr Evans oedd y Gymdeithas – ni allai neb feddwl am yr Amgueddfa, y Diwrnodau Maes na Chyfarfodydd y Cyngor hebddo. Roedd y cymeriad hynod hwn yn ganolog i holl fodolaeth y Gymdeithas. Mae’i farwolaeth yn creu bwlch digamsyniol rhwng y gorffennol a’r dyfodol.
Fel sy’n digwydd yn aml, ni chafodd y fraint o gael ei eni yn y gymdogaeth y treuliodd ei oes yn ei gwasanaethu. Mae Persondy Colyton, Dyfnaint yn bell o Sir Gâr a Sir Aberteifi, ond rhaid i ni droi ein golygon ar ei rieni er mwyn darganfod y gyfrinach y tu ôl i’w ddiddordebau lliaws ac amrywiol.
Roedd ei fam yn ferch i’r Capten George Eyre Powell, R.N., Colyton, y bu ei dad yntau yn gwasanaethu ar fanerlong Nelson. Roedd ei dad, y Parchedig David Lewis Evans yn ysgolhaig amryddawn. Am flynyddoedd, bu’n Athro Hebraeg a Mathemateg yng Ngholeg y Presbyteriaid, Caerfyrddin. Yn weinidog gyda’r Undodiaid, roedd gan David Lewis Evans farn ddatblygedig ar wleidyddiaeth a chrefydd nad oeddent yn boblogaidd o bell ffordd nac yn dderbyniol yn awyrgylch confensiynol, cyffredin teuluoedd sirol oes Fictoria. Ond gwyddai’r Athro Evans am gyfraniadau mawr y corff crefyddol bach ond tra galluog hwn ym maes datblygu gwyddoniaeth ac astudiaethau cymdeithasol yn Lloegr yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, ac ymfalchïai ynddynt.
Cyn dechrau ym Mhrifysgol Lerpwl, rhannwyd ei addysg gynnar rhwng traddodiad clasurol ceidwadol cryf Ysgol Ramadeg y Frenhines Elisabeth, Caerfyrddin a’r hyfforddiant llawer mwy ‘datblygedig’ a gafodd yn academi enwog Gwilym Marles yn awyrgylch Undodaidd Dyffryn Teifi. Fe’i harfaethwyd i’r weinidogaeth Undodaidd, a bu’n fugail yn yr Eglwys Wen ac yn Aberystwyth, ond ymddengys bod ei ddiddordeb yn y gorffennol yn gytbwys â’i ddiddordeb yn y presennol. Flynyddoedd lawer cyn sefydlu Cymdeithas Hynafiaethau Sir Gaerfyrddin, cyhoeddodd Mr Evans restr hir o ddeunyddiau gwerthfawr – y mae eu teitlau’n arwydd o brif ffrydiau ei ddiddordeb, gan gynnwys: Vestiges of Protestant Dissent (1897), Colytonia : A chapter in the History of Devon (1898); Pedair cyfrol o Nodiadau Hynafiaethol a gyhoeddwyd rhwng 1898 ac 1906. The House of Peterwell: An Old Time Story (1900), Aberystwyth and its Court Leet, 1690-1900 (1902), Cardiganshire: A Personal Survey of some of its Antiquities, Chapels, Churches, Fonts, Plates and Registers (1903), Lampeter (1905), Lloyd Letters I754-I796 edited with notes (1908).
Yn 1906, daeth Mr Evans yn ysgrifennydd Cymdeithas Hynafiaethau a Chlwb Maes Sir Gaerfyrddin a oedd newydd gael ei ffurfio ac ar yr un pryd, daeth creu amgueddfa sirol yn uchelgais mawr iddo. Yn fuan wedyn, gwelwn ef yn gweithio’n ddiwyd i ffurfio cymdeithas gyffelyb dros y ffin yn Sir Aberteifi. Yn 1919, fe’i hetholwyd yn aelod o Lys Llywodraethwyr Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a dwy flynedd wedi hynny, cafodd ei ethol i Gyngor Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd ac i Gyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth yn 1924.
Nid mater hawdd yw creu amgueddfa. Mae sut yn union y casglwyd pob gwrthrych yn stori ynddi’i hun mae’n siŵr. Roedd natur hawddgar a dawn dweud Mr Evans yn dra effeithiol yn gyhoeddus ac yn breifat. Câi groeso mawr bob amser yng nghartrefi teuluoedd mawr y sir ac anaml y byddai’n eu gadael heb ddarbwyllo’i letywyr fod y gwrthrych hwn neu’r ddogfen honno o ddiddordeb i’r cyhoedd ac y dylid rhoi eu benthyg ‘am gyfnod hir’ i amgueddfa’r sir. Ar y pegwn arall, byddai’r un doniau yn dwyn perswâd ar y gyrrwr gwedd ar y bryniau neu’r cyryglwr ar lan yr afon i roi enghraifft o’u hoffer neu eu crefft hynafol i’r amgueddfa. Felly yr agorwyd drysau’r amgueddfa led y pen. Derbyn eitemau oedd yr angen mawr, ond roedd hyn yn y pen draw yn cuddio’r angen am greu arddangosfa gytbwys o fywyd y sir yn yr oesoedd a fu – hynny yw, arddangosfa lle gellid astudio bywyd y bonedd ochr yn ochr â’r crefftwyr a’r gwerinwyr, a lle byddai trysorau’r eglwys a’r wladwriaeth yn cydbwyso eiddo’r tafarnwr a’r potsiwr. Rhywbeth arall pwysig iawn y dylid ei gofio wrth geisio asesu cynnwys yr amgueddfa sirol (y bu Mr Eyre Evans yn gofalu’n ddyfal amdani, gan ymweld â’r lle bob dydd pan fyddai gartref) yw ei bod hi wedi’i hadeiladu yn ystod dyddiau cynnar gwyddorau cynhanes, archaeoleg, llên gwerin a diwylliant gwerin. Roedd yn gyfnod pan oedd ymdriniaeth wyddonol o’r pynciau hyn yn araf symud o ddwylo amaturaidd. Gweithiai ar ei ben ei hun i basio barn ar bob math o wrthrychau – crochenwaith cynhanesyddol, arfwisg ganoloesol, gynnau academaidd, hen wydr, llestri tsieina, llawysgrifau, celfi, o’r gwych i’r gwachul. Serch hynny, cyflawnodd Eyre Evans wasanaeth mawr, gan gynnau diddordeb y boblogaeth yn olion y gorffennol. Y diddordeb hwnnw a sbardunodd y cyhoedd a rhoi bod i sefydliadau mawr y genedl, megis yr Amgueddfa Genedlaethol a’r Llyfrgell Genedlaethol. Gwelai Mr Evans yn glir mai gwir bwrpas amgueddfa leol oedd tanio diddordeb y cyhoedd. Bu’n graff iawn yn annog partïon o blant ysgol i ymweld â’r amgueddfa o dan arweiniad eu hathrawon a thrwy ei ddarlithiau bach a’i arddangosiadau, cyflwynodd ddarluniau byw a diriaethol iddynt o’r ffordd yr arferai eu hynafiaid fyw. Roedd bob amser yn barod i rannu’i wybodaeth ag eraill, boed hen neu ifanc a beth bynnag eu statws cymdeithasol neu academaidd. A dweud y gwir, yr oedd fel petai wedi’i alw i wneud ‘pob gwybodaeth yn faes iddo’.
Yn ystod y cyfnod pan oedd datblygu cymdeithasau Sir Gâr a Sir Aberteifi a’r amgueddfa sirol yng Nghaerfyrddin yn hawlio’i sylw, galwyd arno i ymgymryd â thasg arall gysylltiedig. Roedd ei gariad at yr awyr agored a cherdded yn amlwg o’i ddyddiau cynnar iawn ac mae’r rhan fwyaf o’r lluniau ohono yn ei ddangos yn ei wisg gerdded, â’i ffon fawd enwog yn ei law. Roedd yn ei elfen fel archaeolegydd maes, ond ni ddylid tybio iddo erioed fod yn gysylltiedig â’r un cloddiad gwyddonol. Ond nid oedd neb yn fwy addas i fod yn Swyddog Arolygu Comisiwn Brenhinol Henebion yng Nghymru a Sir Fynwy. Arweiniodd gwaith y Comisiwn Brenhinol ef i ymweld yn bersonol â bron pob heneb neu safle hynafol yng Nghymru - cyflawniad y gallai unrhyw un fod yn falch iawn ohono. Daliodd ati yn y swydd hon tan 1928, ac yn ystod y cyfnod hwnnw cyhoeddwyd saith cyfrol (pob un ohonynt yn stocrestr o hynafiaethau sir unigol) o dan awdurdod Llyfrfa Ei Fawrhydi. Mae cyfrol Sir Gaerfyrddin yn un o’r saith. Mae’n dra hysbys mai Mr Eyre Evans oedd yn bennaf gyfrifol am eu cynnwys.
Fel yr eglurwyd droeon uchod, nid oedd Mr Evans yn arbenigwr cul na phleidiol. Yr olwg gytbwys hon ar hanes lleol oedd i gyfrif am gyfeiriad tra llwyddiannus y Transactions yn y gorffennol ac i Mr Evans yn unig y mae’r clod am hynny. Ysgrifennodd un o’r awdurdodau byw pennaf ar hanes bywyd crefyddol yng Nghymru, yn ddiweddar, ‘Nid oes neb sy’n astudio hanes Sir Gaerfyrddin yn debygol o anwybyddu Trafodion Cymdeithas Hynafiaethau a Chlwb Maes Sir Gaerfyrddin sydd (yn wahanol i gyfnodolion hynafiaethol cyffredinol) yn neilltuo digonedd o le i hanes Anghydffurfiaeth ac yn argraffu detholiadau lu o ffynonellau gwreiddiol’. O gofio’r hyn a ddwedwyd am ddyddiau cynnar Mr Evans, gallwn werthfawrogi’r ganmoliaeth hon yn fwy.
Daliodd Mr Evans ati yn ddiwyd i drefnu a chynnal Diwrnodau Maes y Gymdeithas tan flwyddyn ei farwolaeth. Ar hyd y cyfnod hwn, parhaodd i gynnig ei gefnogaeth frwd i’r Transactions a bu ei erthyglau, ei adroddiadau a’i nodiadau yn nodwedd gyson ar hyd y blynyddoedd. Fel y gwelsom, daliodd ati i fynd i fwy a mwy o gyfarfodydd cyhoeddus a chyfarfodydd gweinyddu ac arwydd o’i ysbryd neilltuol o ifanc oedd y ffaith iddo ymuno â’r Sgowtiaid ac yntau’n 67 oed! Cyfrannodd yn hwyl yr ifanc a’r awyr agored a buan y daeth yn Gomisiynydd Sgowtiaid Sir Gaerfyrddin ac yn 1928, daeth yn Ddirprwy Gomisiynydd y Sgowtiaid yng Nghymru. Roedd ei wasanaeth i sir a thref Caerfyrddin yn lliaws gan gwmpasu sawl maes ac er mwyn cydnabod hyn oll, cafodd ei dderbyn gan y Maer a’r Gorfforaeth yn Rhyddfreiniwr Bwrdeistref Hynafol Caerfyrddin mewn seremoni lawn ar 22 Gorffennaf 1937. Roedd yn anrhydedd yr oedd yn fwy na’i haeddu ac yn un y rhoddodd werth mawr arno.
Bu farw’n ddisymwth yn 82 oed ac yntau’n dal i weithio. Cafodd fywyd braf, yn rhydd rhag pryderon arferol y byd hwn; bywyd llawn i’r ymylon a dreuliodd yn gwasanaethu eraill. Pan oedd yn 32 oed, ysgrifennodd am ei ‘oriau dedwydd yn gweithio ac addoli’, a phe dewisai wneud hynny, gallasai fod wedi rhyddhau’r llyfr hwn â’r un teitl pan oedd yn 82 oed. Mewn sawl ffordd, fodd bynnag, yr oedd yn perthyn i’r oes a fu ac yn ei flynyddoedd olaf, roedd yn gymeriad hynod a bontiodd o oes heddwch a hamdden i’r prudd-der sy’n rhan o’n bywyd mecanyddol â’i bwyslais ar gyflymder, yr oedd yn ei gasáu gymaint. Yn briodol, gosodwyd ei lwch ger llwch ei dad, a fu’n gymaint o ddylanwad arno, ym mynwent Capel Undodaidd Alltyblaca, ger afon Teifi rhwng Sir Aberteifi a Sir Gâr – y rhannau o Gymru y gweithiodd mor galed i’w hegluro.