Ymunwch â Ni

Cartref > Ymunwch â Ni

Sut i Ymuno â Ni

RHIF ELUSEN: 260705

Mae gan Gymdeithas Hynafiaethau Sir Gaerfyrddin, a sefydlwyd yn 1905, hanes hir o hyrwyddo’r gwaith o astudio, casglu a chadw hanes ac archaeoleg y sir. Casgliad y Gymdeithas yw ffynhonnell llawer o’r deunyddiau yn Amgueddfa ac Archifau’r Sir.

Mae cyfrolau’r Gymdeithas, sef y Transactions (tan 1939) a’r Carmarthenshire Antiquary (o 1940 tan heddiw) yn cynnwys gwybodaeth helaeth am hanes tai, bywyd gwledig, teuluoedd, hynafiaethau a diwydiant y sir, yn ogystal â darganfyddiadau a chloddiadau archaeolegol. Mae’r Gymdeithas yn fawr ac yn weithgar.

Bob blwyddyn, trefnir rhaglen lawn o ddarlithiau, teithiau a diwrnodau maes. Caiff yr aelodau gopi o’r Carmarthenshire Antiquary, y cyfnodolyn blynyddol, ynghyd â hysbysiadau rheolaidd am holl ddigwyddiadau’r rhaglen.

Rydym yn croesawu pawb sydd â diddordeb yn hanes ac archaeoleg Sir Gaerfyrddin a Gorllewin Cymru ac yn eich annog i ymuno â’r Gymdeithas.

FFIOEDD TANYSGRIFIAD BLYNYDDOL

YN DALADWY AR 1AF IONAWR

AELODAETH UNIGOL £20

AELODAETH TEULU £25

AELODAETH MYFYRIWR (FTE) £5

AELODAETH SEFYDLIADOL £20

Mae modd talu’r tanysgrifiad trwy siec neu arian parod.