Blwyddyn y Canmlwyddiant
Cartref > Amdanom ni > Blwyddyn y Canmlwyddiant
Bu 2005 yn flwyddyn arbennig i’r aelodau pan gofnodwyd canmlwyddiant sefydlu’r Gymdeithas. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Cymdeithas Hynafiaethau Sir Gaerfyrddin yn y Neuadd Sirol, Caerfyrddin yn Ebrill 1905. I ddathlu’r canmlwyddiant yn 2005, trefnwyd rhaglen lawn o ddigwyddiadau, nifer ohonynt wedi’u dewis i gysylltu’r presennol â’r gorffennol a dangos sut y mae’r Gymdeithas wedi mynd o nerth i nerth a datblygu’i nodau ar hyd y blynyddoedd. Dechreuodd y flwyddyn yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin gydag arddangosfa arbennig o rai o’r arteffactau a’r llyfrau niferus a gyflwynwyd i’r Gymdeithas gan yr aelodau cynnar. Canolbwyntiodd yr ysgol undydd flynyddol ar hanes y Gymdeithas a chyfraniadau rhai o’r dynion a fu mor ddylanwadol yn ystod ei blynyddoedd cynnar. Cynhaliwyd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn y Neuadd Sirol, Caerfyrddin, wedi’i ddilyn gan nifer o ddarlithiau. Dr Brinley Jones, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru oedd y siaradwr gwadd yng nghinio dathlu’r canmlwyddiant. Cynhaliwyd picnic â thema Edwardaidd ar dir Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, Abergwili. Cynhaliwyd Diwrnod y Llywydd yng Ngerddi Aberglasne gyda swper i ddilyn yn y plasty sydd wedi’i adfer yn rhannol. Aed ar bererindod i Dyddewi ar ddechrau mis Medi, gan adlewyrchu ymweliad y Gymdeithas yn ystod ei hail flwyddyn. Myddfai oedd lleoliad diwrnod maes mis Hydref ac ym mis Tachwedd, cynhaliwyd darlith Gymraeg gyntaf y Gymdeithas ers blynyddoedd lawer. Daeth y flwyddyn i ben ar nodyn Nadoligaidd ym mis Rhagfyr gyda noson gerddorol yng nghwmni cerddorion o Sir Gaerfyrddin.
- 23 o bobl yn cael llun grŵp y tu allan gyda'i gilydd
Cyngor Gweithredol y Canmlwyddiant, 2005
- Grwp o bobl tu allan yn sefyll mewn rhes
Rhai o'n haelodau gyda'r Llywydd y tu allan i Neuadd y Dref
- llun o 19 o bobl yn y cinio canmlwyddiant yn 2005
- chwech o ferched yn eistedd rownd bwrdd crwn, yn edrych ar heward rees wrth iddo ddod at y bwrdd
Yr Ysgrifennydd Cyhoeddiadau Heward Rees yn nesau at ei fwrdd gyda'i aplomb arferol
- chwech o ferched yn eistedd wrth fwrdd crwn yn gwenu at y camera
Aelodau Gwyon Nethercote, Yvonne Parry, Athalie Childs, Diana Pazienti ac Anne Davies yn ymgynnull am ddiod cyn swper
- dwy ddynes yn gwenu yn eistedd wrth fwrdd gyda blodau arno
Aelodau Jean Griffiths ac Iris Davies
- pobl tu allan ar dir amgueddfa sir gaerfyrddin yn abergwili, yn ystod y picnic
- tair dynes a dyn yn eistedd mewn trol ceffyl, yn gwisgo dillad Edwardaidd traddodiadol
Llywydd Towyn Jones gyda'r Is-gadeirydd Roy Davies yn cyrraedd yr Amgueddfa gyda'u gwesteion
- dau geffyl gwyn yn tynnu trol gydag un dyn yn arwain y ceffyl a dyn ar y drol gyda chwip
- tair dynes mewn gwisg edwardaidd yn dal ymbarels, y tu allan i amgueddfa sir gaerfyrddin
- dynes mewn gwisg ddu edwardaidd yn gwenu
Ysgrifennydd y Rhaglen Hazel Martell, a weithiodd mor galed i wneud y diwrnod yn llwyddiant
- tair o ferched yn gwisgo gwisg edwardaidd yn gwenu
Anne Davies, Gwyon Nethercote a Hazel Martell
- Cofeb o'r 19eg ganrif wedi'i gosod dros furlun canoloesol gwyngalchog
Cofeb o'r 19eg ganrif wedi'i gosod dros furlun canoloesol gwyngalchog, a ddatgelwyd yn ystod y gwaith adfer
- criw mawr o bobl yn cerdded trwy gae tuag at Llwynywormwood ar ddiwrnod heulog
Allan gyda'r Hynafiaethwyr ar ddiwrnod gogoneddus : yn nesau at y plas adfeiliedig yn Llwynywormwood
- grwp o bobl tu allan i Llwynywormwood
Llwynywormwood, wedi ei drawsnewid allan o'r hen gertws
- pobl yn sefyll tu allan i Llwynywormwood yn edrych ar y buarth mawr
Rhan o'r ysgubor anarferol o fawr
- chwech o bobl tu allan i Llwynywormwood gyda drws mawr y buarth tu nol iddyn nhw
Un o'r pâr o ddrysau dwbl enfawr yr ysgubor
- dau ddyn o flaen Cilgwyn
Tom Lloyd yn annerch yr Hynafiaethwyr y tu allan i'r Cilgwyn
- grwp o bobl yn ymweld a ty pinc Coedweddus
Mr Lampard a Tom Lloyd wrth y fynedfa i Goedweddus. Mae'r estyniad diweddarach i'w weld yn glir ar y chwith.
- hen gapel yr esgob gyda goleuadau nadolig sef dwy angel a ser
Hen Gapel yr Esgob yn yr Amgueddfa wedi ei addurno ar gyfer y Nadolig