Cyflwyniadau i'r Carmarthenshire Antiquary
Cartref > Cyhoeddiadau > Cyflwyniadau i'r Carmarthenshire Antiquary
NODIADAU I’R CYFRANWYR
Mae’r Golygydd a’r Bwrdd Golygyddol yn croesawu cyfraniadau i’r Carmarthenshire Antiquary sy’n hyrwyddo nodau ac amcanion Cymdeithas Hynafiaethau Sir Gaerfyrddin, a ddiffinnir yn eang fel ‘astudio hanes, archaeoleg, hynafiaethau a llên gwerin Sir Gaerfyrddin yn benodol a Gorllewin Cymru yn gyffredinol’. Nid cymdeithas hanes teulu ydym ni yn bennaf. Ail nod canolog y Gymdeithas yw annog diogelu cofnodion lleol, a chofebau, adeiladau a safleoedd hanesyddol ac archaeolegol a thirweddau hanesyddol a chefnogi gwasanaethau Amgueddfeydd ac Archifau’r Sir.
Gofynnir i awduron sy’n dymuno cyflwyno erthyglau (8,000-10,000 o eiriau os yn bosibl) neu nodiadau neu erthyglau byrrach, anfon copi electronig ynghyd â chopi wedi’i argraffu at y Golygydd. Ffefrir y fformatau ffeiliau a ddefnyddir yn gyffredin, megis Word, gyda chyn lleied o fformatio â phosibl. Fformat colofnau dwbl a ddefnyddir yn yr Antiquary ond ni ddylai awduron geisio dyblygu’r fformat hwn yn eu cyflwyniadau gan fod hynny’n creu mwy o waith i’r Golygydd wrth baratoi’r copi ar gyfer y cysodwr. Dylai’r darluniau eglurhaol gael eu hanfon ar wahân ac NI DDYLID eu gosod yng nghorff y testun. Mae hyn eto yn creu gwaith ychwanegol i dynnu’r delweddau hyn allan o’r ffeil a’u cyflwyno ar wahân i’r cysodwr. Mae cymorth a chyngor ar gael ynghylch rhoi’r darluniau eglurhaol at ei gilydd. Dylent fod yn ddelweddau eglur iawn ar ffurf .jpg .tiff neu .pdf. Rydym yn defnyddio ôl-nodiadau wedi’u rhifo. Rydym bellach wedi mabwysiadu Canllawiau Arddull Prifysgol Rhydychen, y gellir eu lawrlwytho am ddim er gwybodaeth i awduron: Canllawiau Arddull. Er bod y mwyafrif o’r erthyglau a gyhoeddir yn rhai Saesneg, mae modd cyflwyno darnau Cymraeg gyda chrynodeb Saesneg.
Wedi i erthygl ddod i law, bydd y Golygydd yn ei rhannu gyda’r Bwrdd Golygyddol neu’n gofyn am sylwadau ac ail farn gan arbenigwr yn y maes. Efallai y gofynnir i awduron ystyried gwneud newidiadau bach neu fawr hyd yn oed. Gofynnir i’r awduron sicrhau’r caniatâd angenrheidiol i atgynhyrchu eu darluniau eglurhaol lle bo hynny’n berthnasol. Y Golygydd fydd â’r gair olaf o ran dewis cynnwys y gyfrol, wrth geisio sicrhau cydbwysedd o ran pynciau a rhychwant amser, a chadw at y terfynau ariannol o ran hyd y gyfrol. Bydd awduron yn cael copi o’r Carmarthenshire Antiquary a’u herthygl ar ffurf ffeil pdf. Y cyfranwyr unigol a Chymdeithas Hynafiaethau Sir Gaerfyrddin piau’r hawlfraint ar y cyd.
Heather James BA FSA. Golygydd
Braemar,
Heol Llangynnwr,
Caerfyrddin SA31 2AF
h.james443@gmail.com