Mae'r daith hon yn ein tywys i wyth safle yn ne-orllewin Sir Gaerfyrddin ac yn dathlu rhan sylweddol o dreftadaeth Cymru.

Defnyddir placiau QR HistoryPoints tebyg i hyn ym mhob safle ar y daith. .

Mae QR ger pob safle sy'n cynnwys rhagor o wybodaeth am yr hyn a gyflawnwyd gan Griffith Jones ac am yr unigolion  a gafodd eu hysbrydoli ganddo.

Mae bwrdd dehongli ger amryw o'r safleodd yn ogystal.

Cewch daith ar-lein yma:

https://historypoints.org/index.php?page=the-carmarthenshire-enlightenment-tour


 

 

Lansiwyd y cynllun hwn gan Gymdeithas Hynafiaethau Sir Gaerfyrddin i'n hatgoffa o elfen arwyddocaol iawn yn ein treftadaeth. Mae'r cynllun cyfan yn cynnwys:

  • Taith o'r prif safleoedd a gysylltir â Griffith Jones;
  • Llyfryn sy'n trafod yr etifeddiaeth honno;
  • Llwybrau lleol sy'n canolbwyntio ar agweddau lleol;
  • Cyfres o baneli hwylus sydd ar gael i'w benthyg;

Rhaglen o sgyrsiau a digwyddiadau.