|

Sefydlwyd Cymdeithas Hynafiaethau Sir Gaerfyrddin ym 1905 er
mwyn hyrwyddo a chyhoeddi ymchwil i hanes ac archaeoleg y sir.
Anogwn hefyd gadwraeth cofnodion, hynafiaethau a gwrthrychau
o ddiddordeb archaeolegol. Mae'n haelodau yn derbyn The
Carmarthenshire Antiquary, ein cyfnodolyn uchel ei barch,
ynghyd â chylchlythyr misol ar-lein a rhaglen gynhwysfawr
o sgyrsiau, darlithiau, cynhadledd flynyddol thematig ac ymweliadau
â mannau hanesyddol drwy'r sir a thu hwnt.
Ymunwch â ni!
I atgoffa Aelodau
…
os nad ydych wedi cadarnhau y gallwn ddefnyddio'ch
ebost i gysylltu â chi am faterion y Gymdeithas,
tybed a fedrech ystyried gwneud hynny, drwy ebostio
carmantiquarians@gmail.com
|
CYMDEITHAS HYNAFIAETHWYR SIR
GAERFYRDDIN
CARMARTHENSHIRE ANTIQUARIAN SOCIETY
Edrych am anrheg perffaith i ffrind neu
i'ch hunan?
Beth am roi tanysgrifiad blwyddyn i Gymdeithas
Hynafiaethwyr Sir Gaerfyrddin?
Yr unig Gymdeithas ar gyfer astudio hanes,
archaeoleg a llên gwerin Sir Gâr ac un o brif
gymdeithasau hanes lleol Cymru.
£20 yw tanysgrifiad unigolyn am flwyddyn,
sy'n cynnwys copi o'r Carmarthenshire Antiquary.
Cliciwch
yma i lawrlwytho Ffurflen Tanysgrifiad Anrheg
neu ebostiwch carmantiquarians@gmail.com
am fanylion pellach.
|
Rhif Elusen - 260705
|
Digwyddiadau
i ddod
Sadwrn 11 Tachwedd
CYNHADLEDD DYDD
Panel o siaradwyr ar newidiadau 18 Ganrif a ddeilliodd o ysbrydoliaeth Griffith Jones: mewnwelediadau newydd.
Yn ogystal ag arddangosfa, lansiad llyfrau newydd a gwerthiant llyfrau.
Neuadd Ddinesig San Pedr, Caerfyrddin.
Rhagor o wybodaeth a ffurflen archebu.
Gweler tudalen 'Rhaglen
Cyfarfodydd' am fanylion pellach. |